Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr Syrcas NoFit State yn ymgysylltu â thorf o bobl yng Ngŵyl Stryd Clifton

CultureStep

Buddsoddi mewn Cydweithrediadau Creadigol

Wedi’i ariannu gan Hodge Foundation a Moondance Foundation, mae CultureStep wedi’i gynllunio i annog nawdd newydd a datblygu ymgysylltiad busnes sefydledig â’r celfyddydau.

Trwy CultureStep, mae C&B Cymru yn buddsoddi arian parod mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng y ddau sector, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.

Llun: Syrcas NoFit State – Mark Robson Ffotograffydd

Gall partneru â’r celfyddydau alluogi busnesau i gyflawni amcanion craidd mewn ffyrdd creadigol a phellgyrhaeddol a nod CultureStep yw sicrhau’r effaith fwyaf posibl i bawb sy’n gysylltiedig.

Fe’i cynlluniwyd i helpu cwmnïau i gyfathrebu’n uniongyrchol â’u marchnadoedd targed, ymgysylltu’n effeithiol â’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a chael mynediad at gyfleoedd datblygu staff diriaethol â ffocws.

Mae’r cynllun yn rhoi cymhelliad uniongyrchol i fusnesau bartneru â’r celfyddydau. Yn benodol, i:

  • dangos Elw ar Fuddsoddiad, cynyddu proffil a galluogi lefel uwch o weithgarwch.
  • lleihau’r “risg” o gychwyn ar bartneriaethau newydd gyda sicrwydd cymeradwyaeth C&B Cymru.
  • sicrhau bod partneriaethau’n cael eu monitro a’u gwerthuso i fesur llwyddiant yn erbyn amcanion a osodwyd.

Rhaid defnyddio buddsoddiad CultureStep i gryfhau a datblygu’r berthynas rhwng y busnes a phartneriaid celfyddydol, drwy weithgarwch celfyddydol.

Rhaid i bob prosiect hefyd fod o fudd i unigolion sydd yn byw yng Nghymru a rhaid i brosiectau fynd i’r afael ag o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:

  • Celf a’r Amgylchedd: annog partneriaethau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan ddangos ymrwymiad i arfer gorau amgylcheddol tra’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau.
  • Celf ac Amrywiaeth: gweithio gyda’r celfyddydau i hyrwyddo a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant, ymgysylltu â’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ar sail ethnigrwydd, rhyw, galluoedd corfforol, hil, credoau crefyddol neu wleidyddol a chyfeiriadedd rhywiol.
  • Celf a Gweithwyr: annog partneriaethau sy’n cyfuno’r celfyddydau i ddatblygiad gweithwyr ac ar yr un pryd yn ysgogi amgylchedd gweithio mwy creadigol.
  • Celf ac Iechyd a Lles: gweithio gyda’r celfyddydau i gynorthwyo lles meddyliol, emosiynol a / neu gorfforol.
  • Celf a’r Iaith Gymraeg: annog partneriaethau sy’n dathlu ac yn hyrwyddo’r iaith, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl a chymunedau brofi’r celfyddydau drwy’r Gymraeg.
  • Celf a Phlant: ymgysylltu â phobl ifanc dan anfantais gymdeithasol a phobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau, gan wneud gwahaniaeth diriaethol i’w bywydau.
  • Celf a Phobl Hŷn: ymgysylltu â phobl hŷn sy’n agored i niwed, difreintiedig ac ynysig â’r celfyddydau, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
  • Celf a Threchu Tlodi: partneru’r celfyddydau i wella bywydau pobl heb adnoddau digonol i ddarparu safon byw derbyniol sy’n eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes. 

Os oes gennych chi brosiect posibl yr hoffech ei drafod, cysylltwch â C&B Cymru drwy lenwi’r ffurflen gyswllt a bydd rhywun mewn cysylltiad.

Gwneir penderfyniadau CultureStep gan banel a gadeirir gan Brif Weithredwr C&B Cymru. Mae gan aelodau ystod amrywiol o sgiliau ac arbenigedd a dealltwriaeth drylwyr o faterion perthnasol. Mae ganddynt hefyd wybodaeth fanwl am C&B Cymru ac ymrwymiad i’w waith a’i strategaeth.

Mae’r panel yn cynnwys 8 aelod â phleidlais. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac yn gweithredu ar yr egwyddor o gydgyfrifoldeb. Mae gan bob aelod lais cyfartal. Y panel yw:

  • Rachel Jones, Prif Weithredwr, A&B Cymru (Cadeirydd)
  • Kathy Brown, cyn-Is-lywydd Cynorthwyol, Buddsoddiad Cymunedol, Barclays plc
  • Robert Lloyd Griffiths, Cynghorydd Busnes
  • Denise Lord, Codwr Arian Llawrydd
  • Samantha Maskrey, Cadeirydd, Darkley Trust
  • Nigel Petrie, Cyfarwyddwr, Petrie and Company
  • Lynne Sheehy, cyn-Rheolwr CCC , Legal & General
  • Richard Tynen, Cyfarwyddwr, The Funding Centre

Dyddiad cau: 9 Mai 2024
Dyddiad y cyfarfod: 23 Mai 2024

Dyddiad cau: 27 Mehefin 2024
Dyddiad y cyfarfod: 11 Gorffennaf 2024

Dyddiad cau: 26 Medi 2024
Dyddiad y cyfarfod: 10 Hydref 2024

Dyddiad cau: 28 Tachwedd 2024
Dyddiad y cyfarfod: 12 Rhagfyr 2024

Dyddiad cau: 6 Mawrth 2025
Dyddiad y cyfarfod: 20 Mawrth 2025

Newyddion CultureStep Mawrth 2024

Ym mis Mawrth, cyfarfu’r Panel CultureStep i drafod y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer cyfarfod terfynol flwyddyn ariannol 2023/24.

Cadarnhawyd pedwar buddsoddiad, a bydd pob un ohonynt yn helpu i gryfhau a chynnal partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau. Y prosiectau yw:

  • Act Now Creative Training a Grant Stephens Family Law.Trwy froceriaeth C&B Cymru, comisiynodd y cwmni Act Now i ddylunio a chyflwyno rhaglen hyfforddi bwrpasol yn seiliedig ar y celfyddydau i ddatblygu sgiliau rhwydweithio a hyder deg o’i weithwyr. Mae CultureStep yn ymestyn y bartneriaeth drwy ariannu ail ddiwrnod o hyfforddiant un-i-un ar gyfer y cyfranogwyr.
  • Theatr na nÓg a Boskalis Westminster; Awdurdod Harbwr Caerdydd; Mermaid Quay a Port of Milford Haven. Mae partneriaid newydd, Boskalis Westminster a Mermaid Quay, wedi ymuno ag Awdurdod Harbwr Caerdydd a Port of Milford Haven, wrth gydweithio â Theatr na nÓg i godi ymwybyddiaeth o beryglon nofio a neidio i mewn i ddŵr heb ei fonitro. Bydd y prosiect yn galluogi’r sioe arobryn Just Jump i ddychwelyd am y 6ed flwyddyn, gan ymgysylltu â dros 1,000 o ddisgyblion o ysgolion Caerdydd yn yr Eglwys Norwyaidd a 350 yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Mae CultureStep yn cynyddu cyrhaeddiad y prosiect drwy gyfrannu at ffioedd y cast, gan alluogi mwy o berfformiadau a darpariaeth ddwyieithog.
  • Cardiff Animation Festival a Picl Animation; Cloth Cat Animation; Twt Productions; Bomper Studio; ScreenSkills; Bumpybox a Chapter.Mae amrywiaeth o bartneriaid busnes yn cefnogi Cardiff Animation Festival i gyflwyno ei digwyddiad blynyddol o 25-28 Ebrill. Bydd cynulleidfa o dros 10,000 yn gallu cyrchu 100 o ffilmiau byr, gweithdai creadigol a dosbarthiadau meistr, gan arddangos digwyddiadau ac arddangosfeydd. Bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar y thema Treat, gan archwilio sut mae bwyd yn dod â chymunedau at ei gilydd. Mae CultureStep yn cyfrannu at Ddosbarth Meistr Diwrnod Diwydiant a siaradwyr panel, Profiad VR, cyfieithiad Arabeg ar gyfer digwyddiadau a deunyddiau a hwyluso Gweithdy Lles.
  • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Unite Students. Mae Unite Students wedi cefnogi cynllun tocynnau cymorthdaledig y Coleg ar gyfer myfyrwyr Caerdydd ers chwe blynedd. Mae’r ddau bartner yn dymuno cynyddu nifer y perfformiadau hygyrch sydd ar gael. I gefnogi hyn, mae CultureStep yn ariannu perfformiadau â chapsiynau ac wedi’u cefnogi gan Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Yn ystod 2023/24, mae CultureStep wedi buddsoddi dros £91K mewn 33 o bartneriaethau, gan ddenu bron i £342K o fusnes yn uniongyrchol i’r celfyddydau.

Y derbynwyr a gadarnhawyd yn y Paneli blaenorol oedd:

  • Anthem a Bizspace
  • Arts Connection – Cyswllt Celf a Wind 2
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Les Harpes Camac
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Pendine Park Care Organisation
  • Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a WSP UK
  • Engage Cymru a CGI
  • Engage Cymru a Tai Wales a West
  • Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a Ty Architecture Cyf
  • Gŵyl Gerdd y Bont-Faen a Richard H Powell & Partners a Tidy Translations
  • Hijinx a Morgan Quarter a FOR Cardiff
  • Lighthouse Theatre ac Awdurdod Harbwr Caerdydd
  • Mack Events Presents a CJCH Solicitors a Barry Training Services a Forklift Specialist a Finnegans Inn a Gary Watson Motor Company a Ruckleys a RJR BAR Services ac ISO Guy a The Rock Shop a Loaded Dice a Truffle Specialist Finance a Bro Radio a Sunkiss Tanning Salon
  • Making Sense a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Menter Caerdydd Tafwyl a Choleg Caerdydd a’r Fro
  • Mewn Cymeriad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Merched y Wawr
  • OPRA Cymru a Magnox a Bwydydd Castell Howell
  • Role Plays for Training a Chartrefi Conwy
  • Rubicon Dance a Rubicon Facilities Management Wales
  • Shelter Cymru a HSBC ac IKEA
  • studioMADE Creative a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Syrcas NoFit State a CELSA Steel UK
  • Syrcas NoFit State a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd
  • Tanio a Linc Cymru
  • The Denbigh Workshop a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • The Other Room a Bad Wolf
  • The Successors of the Mandingue a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a Thrafnidiaeth Casnewydd
  • Urdd Gobaith Cymru a Llaeth y Llan a Royal College of Psychiatrists
  • Vision Arts a Valero

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes.

Y dyddiad cau nesaf yw 9 Mai 2024. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â contactus@aandbcymru.org.uk

Cysylltwch â ni

Llenwch y ffurflen isod i gysylltu â ni






    Dysgwch fwy am CultureStep drwy ddarllen ein Hastudiaethau Achos

    Darllenwch ein hastudiaethau achos